Annwyl Gyfaill
Ymgynghoriad ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar dudalen y Bil ar y wefan.
Cylch gorchwyl
Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad:
Wrth graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, gwahoddir y Pwyllgor i gytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn:
Trafod —
- egwyddorion cyffredinol y Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir;
- darpariaethau’r Bil sy’n nodi’r pwerau newydd i’r Ombwdsmon:
- dderbyn cwynion llafar;
- cynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun;
- ymchwilio i driniaeth feddygol breifat gan gynnwys gofal nyrsio ar lwybr iechyd cyhoeddus/preifat; a
- chael rôl mewn perthynas â safonau a gweithdrefnau ynghylch ymdrin â chwynion.
- unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hyn;
- priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 6 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).
- a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil, a
- goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo â’i waith o ystyried y Bil. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.
Dylai sylwadau gyrraedd erbyn dydd Gwener 1 Rhagfyr 2017.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Gweler y canllawiau i rai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.
Polisi dwyieithrwydd
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau weithredu eu safonau a'u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt a ganlyn:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
E-bost: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Rhif ffôn: 0300 200 6565
Yn gywir,
John Griffiths AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau